P-05-898 Dylid gwahardd defnyddio byrddau A yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Angharad Paget-Jones, ar ôl casglu cyfanswm o 80 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Deiseb i wahardd y defnydd o fyrddau A ar gyfer hysbysebu yng Nghymru. Mae byrddau A yn gwneud ein palmentydd yn anniben ac maent hefyd yn peri risg enfawr i bobl anabl gan eu bod yn golygu yn aml fod rhaid i bobl mewn cadair olwyn neu bobl â nam ar eu golwg fynd ar yr heol er mwyn mynd heibio iddynt.
Mae hyn yn broblem yn arbennig mewn mannau a rennir, megis canol dinasoedd, yn ogystal ag mewn trefi arfordirol lle mae'r palmentydd yn gulach.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Aberafan
· Gorllewin De Cymru